Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Chwefror 2023
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Helen Finlayson
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.00-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Gwasanaethau endosgopi: sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru, Cyd-grwp Cynghori ar Endosgopi GI ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru
(09.30-10.30) (Tudalennau 1 - 25)
Dr John Green, Llywydd Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru
Dr Mark Jarvis, Cadeirydd achrediad JAG yn y Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi GI
Dr Jeff Turner, Dirprwy Arweinydd Clinigol, Grŵp Rheoli Hyfforddiant Endosgopi, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Papur briffio gan Ymchwil y Senedd
Papur 1 – Tystiolaeth gan Gymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru
Papur 2 – Tystiolaeth gan y Cyd-grŵp Cynghori ar Endosgopi GI
3 Papurau i'w nodi
(10.30)
3.1 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).
(Tudalennau 26 - 37)
3.2 Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
(Tudalen 38)
3.3 Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
(Tudalennau 39 - 40)
3.4 Llythyr gan y Gweinidogion â chyfrifoldeb am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch diweddariadau ar argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud â iechyd meddwl.
(Tudalennau 41 - 50)
3.5 Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am ei ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus
(Tudalennau 51 - 56)
3.6 Llythyr at y Llywydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023
(Tudalennau 57 - 67)
Memorandwm Esboniadol ar Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023
Nodyn Esboniadol
3.7 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch diweddariad am ddileu hepatitis B a hepatitis C yng Nghymru
(Tudalennau 68 - 70)
3.8 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol ynghylch cyfarfod rhwng Gweinidog Iechyd Llywodraeth y DU a Gweinidogion Iechyd y llywodraethau datganoledig
(Tudalen 71)
3.9 Llythyr gan Gynghrair Gordewdra Cymru ynghylch ei blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru
(Tudalennau 72 - 73)
3.10 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2023
(Tudalennau 74 - 75)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
(10.30)
5 Gwasanaethau endosgopi: trafod y dystiolaeth
(10.30-10.45)
6 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): dull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1
(10.45-11.15) (Tudalennau 76 - 93)
Papur 3 - Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
7 Strategaeth y Pwyllgor
(11.15-12.00) (Tudalennau 94 - 123)
Papur 4 - Strategaeth y Pwyllgor
8 Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG
(12.00-12.15) (Tudalennau 124 - 140)
Papur 5 – Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG